Amdanom ni / About us

Daw mwyafrif ein pren o Goed Gorllwyn ar y llethrau uwchlaw Traeth Mawr, rhwng pentref Prenteg a phont Cerrig y Rhwydwr. Mae’n goetir collddail lled-naturiol a’r coed mwyaf cyffredin yw derw, ffawydd, bedw, ynn, cyll a sycamorwydd. Plannwyd ffawydd mewn un cornel gan ystâd Aberdunant yn yr 1860au, ac maent wedi lledaenu ers hynny. Plannwyd rhannau helaeth o’r coetir dan gonwydd gan y Comisiwn Coedwigaeth yn ystod yr 1960au.

Cymerodd y perchnogion presennol reolaeth o’r safle yn 1997 gyda’r bwriad o’i hadfer yn goetir collddail cymysg hyfyw er lles bioamrywiaeth. Yn 1997 roedd mwyafrif y coed collddail yn hen a llawer yn dioddef gan bod conwydd yn tyfu oddi tanynt. Ychydig o lystyfiant oedd ar lawr oherwydd y conwydd, ac oherwydd pori gan ddefaid. Erbyn hyn mae mwyafrif y conwydd wedi eu gwaredu, mae llystyfiant yn drwch ar lawr y goedwig, ac mae coed collddail ieuanc yn tyfu yn y bylchau yn y canopi.

Daw ein pren o goed sydd wedi syrthio mewn stormydd neu a oedd yn pwyso dros y ffordd fawr. Bwriad menter Pren Teg yw darparu pren ar gyfer defnydd hir-dymor yn ein tai yn hytrach na dim ond coed tân. Os ydych chi’n chwilio am bren unffurf a chyson ei safon, heb na chainc nac agen tyfu, nid dyma’r pren i chi! Os ydych chi’n chwilio am bren â chymeriad a graen diddorol o darddiad lleol cynaliadwy, cymerwch olwg ar yr hyn sydd gan Pren Teg i’w gynnig.

__ __ __ __ __ __ __ __ __ __ __ __ __ __ __ __ __ __ __ __ __ __ __ __

Most of our timber is sourced from Coed Gorllwyn, a semi-natural broadleaf woodland located on the slopes above Traeth Mawr, north of Prenteg. It can be considered to be a ‘Celtic rainforest’. The most common tree species are oak, beech, downy birch, ash, hazel and sycamore. The southeast corner was planted with beech in the 1860s by Aberdunant estate, and beech has since spread throughout the woodland. During the 1960’s the Forestry Commission cleared large areas and planted a variety of conifers, and other areas were underplanted with western hemlock.

The present owners began to change management of the woodland in 1997 with the aim of restoring it to a biodiverse mixed broadleaf woodland. In 1997 most of the broadleaf trees were old and many were threatened by the underplanted conifers. There was little ground vegetation due to conifer growth and to grazing by sheep. Now, most of the conifers have been removed, there is dense undergrowth, and young broadleaf trees are growing in the gaps in the canopy. 

Our timber is from wind blown trees and others which were leaning over the road. The aim of Pren Teg is to provide home grown timber for long term use rather than only for firewood. If you are looking for consistent, uniform timber without knots or growth ‘defects’, this is not for you! If you want locally sourced, sustainable timber with strong grain and character, take a look at our produce.